Clwb Darllen Newydd!

Mae ’na glwb darllen newydd wedi ei sefydlu yn Rhostryfan.

Owain Ynyr
gan Owain Ynyr

Ydych chi’n hoffi darllen?

Ydych chi’n hoffi cymdeithasu?

Wel, os ydych chi, mae ’na glwb darllen newydd wedi ei sefydlu yn Rhostryfan a’r bwriad fydd cyfarfod ar nos fawrth olaf pob mis.

Bydd cyfarfod cyntaf y clwb, nos Fawrth, 24ain o Fedi, yng nghapel Horeb am 7.30pm.

Y llyfr fydd yn cael sylw noson honno ydy cyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni,  “Carafanio” gan Guto Dafydd.

Bydd cyfle i drafod ac i roi eich barn ar y gyfrol.

Croeso cynnes i bawb ac fe fydd paned ar gael.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Siwan Thomas, 01286 830851 neu siwan_mair@hotmail.com