Peldroedwyr yn cofio Malcs Teliffon mewn gêm arbennig

Gêm elusennol rhwng dau o glybiau’r Dyffryn, wrth i Nantlle Vale herio Talysarn Celts.

Guto Jones
gan Guto Jones

Ar b’nawn ddydd Sul, Medi 22, bydd na gêm elusennol rhwng dau o glybiau’r Dyffryn, wrth i Nantlle Vale herio Talysarn Celts.

Mae’r gêm yn cael ei chwarae er cof am gyn-chwaraewr i’r ddau glwb – Malcolm Williams, neu Malcs Teliffon i’w ffrindiau, ac mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn mynd tuag at elusen Awyr Las.

 

 

 

Cyn-chwaraewyr dros 35 oed y ddau glwb fydd yn chwarae. Erbyn hyn, mae’r gêm yma’n cael ei chynnal yn flynyddol, a noddir y prynhawn gan sawl busnes lleol o’r ardal.

Mae’r gic gyntaf am 2pm ym Maes Dulyn, a byddai’n wych cael llond lle o bobl yno i gefnogi’r hogiau sydd yn chwarae er mwyn codi arian i achos da.

Enillodd Talysarn 5-1 y flwyddyn ddiwethaf, felly bydd Vale yn awyddus iawn i daro nôl. 

 

Dyma stori gan griw’r clybiau pêl-droed lleol ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru