Murlun yn datgelu darn o hanes

Pwy sydd wedi sylwi ar y murlun difyr yma sy’n cuddio rownd y gornel o’r Orsaf?

greta
gan greta

Pwy sydd wedi sylwi ar y murlun difyr yma sy’n cuddio rownd y gornel o’r Orsaf?

Ydych chi erioed wedi meddwl o le gafodd y caffi ym Mhenygroes ei enw ‘Yr Orsaf’? Wel……

Nôl yn y flwyddyn 1828 roedd yr adeilad arbennig yma yn dafarn o’r enw Stag’s Head Inn.

Roedd rheilffordd geffylau yn rhedeg trwy’r Dyffryn, yn cludo llechi ac yn mynd heibio’r dafarn yma. Gwelodd rheolwr y dafarn ei gyfle i wneud ’chydig o arian felly fe werthodd docynnau i bobl gael teithio ar y drelar llechi. Da ‘de?!

Felly, yn wir, yr adeilad yma oedd gorsaf deithwyr gynta’r BYD!

A dyna o le gafodd y caffi ei enw…. Yr Orsaf. ? ???????? ❤️