Cyfle i leisio barn am statws UNESCO i Dirwedd Llechi Gwynedd

Mae ardal y chwareli wedi cael ei dewis fel enwebiad y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae ardal y chwareli yng Ngwynedd wedi cael ei dewis fel enwebiad y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd.

Er hynny, nid yw’n glir beth fyddai effaith statws UNESCO ar gymunedau Cymraeg yr ardal, ac mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ar agor tan 20 Medi.

Cymunedau’r Dirwedd Llechi

Daw sawl ardal o fewn cwmpas y safle arfaethedig, gan gynnwys:

  • Dyffryn Ogwen
  • Dyffryn Nantlle a Moel Tryfan
  • Gorsedda
  • tirwedd llechi Ffestiniog
  • tirweddau chwareli de Gwynedd
  • prif adeilad Prifysgol Bangor

Creu swyddi a datblygu hunaniaeth

Mae Cyngor Gwynedd, sy’n chwarae rhan flaenllaw iawn yn y trefniadau, o’r farn y byddai ennill statws treftadaeth rhyngwladol yn fuddiol iawn i’r ardal.

“Gall adfywio sy’n cael ei arwain gan Dreftadaeth fod yn ysgog cadarnhaol i gyflawni newid economaidd mewn ardal, i greu swyddi, cymell gwelliannau ehangach, a datblygu balchder a hunaniaeth gymunedol bellach” medd adroddiad y Cyngor Sir.

“Mae hyn yn berthnasol iawn i ardaloedd mewn Safle Treftadaeth y Byd enwebedig a all fod yn dioddef o lefelau cymharol uchel o amddifadedd a diffyg swyddi.”

Yr effaith ar y Gymraeg

Ond mae nifer o gymunedau’r ardal hon â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg – rhai o’r uchaf yng Nghymru gyfan. Yn ôl Cyfrifiad 2011, dyma ganran rhai o’r cymunedau hynny:

  • Llanddeiniolen: 76.2%
  • Bethesda: 77.5%
  • Llanberis: 74.7%
  • Llanllyfni: 79.2%

Mae’r wybodaeth ar wefan UNESCO ynglŷn â’r cais (Cyfeirnod 5678) yn nodi pwysigrwydd hanesyddol y safle o safbwynt y diwylliant Cymraeg.

“Fe wnaeth y diwydiant [llechi] alluogi diwylliant traddodiadol ac iaith leiafrifol i addasu at y byd modern trwy ennill sgiliau newydd.

“Fe greodd y cymunedau chwarelyddol eu strwythurau democrataidd eu hunain, gan gynnwys capeli’r gweithwyr, a chefnogaeth ariannol tuag at Brifysgol Bangor.

“Fe wnaeth y busnes weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ei wneud yn unigryw ymhlith prif ddiwydiannau cyfalafog y DU.”

“Cusan angau”

Mae rhai beirniaid wedi tynnu sylw at effaith negyddol bosib statws UNESCO, sef y gallai ‘rewi’ ardal a rhwystro datblygiad naturiol.

Mae Marc D’Eramo, newyddiadurwr a beirniad diwylliannol adnabyddus wedi galw statws UNESCO yn gusan angau:

“Yn baradocsaidd, canlyniad anfwriadol yr awydd i gadw unigrywiaeth rhyw le yw creu ‘an-le’ [unplace]” meddai D’Eramo.

“Mae cadw’n golygu embalmio, rhewi, achub rhywbeth rhag pydredd amseryddol; ond yma mae’n golygu stopio amser, sefydlogi’r gwrthrych fel pe bai mewn ffotograff, ei amddiffyn rhag twf a newid.”

Nid yw adroddiad manwl Cyngor Gwynedd ar y cynnig yn cyfeirio at effaith ieithyddol y cynllun.

Sawl cam eto i fynd

Ar hyn o bryd, mae’r Dirwedd Llechi ar ‘Restr Betrus’ UNESCO, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddi gael ei derbyn yn swyddogol yn ddarpar-Safle Treftadaeth y Byd o blith ceisiadau eraill ar y rhestr.

Bydd y cais wedyn yn cael ei anfon at Gyrff Ymgynghorol, cyn mynd at Bwyllgor Treftadaeth y Byd – sef y cam olaf.