Cwrs Golff i ysgol Bro Lleu.

Mae disgyblion Bro Lleu wedi bod yn brysur iawn yn dylunio yn y dosbarth, a nawr yn barod i adeiladu ar gaeau’r ysgol.

Guto Jones
gan Guto Jones

Mae disgyblion Bro Lleu wedi bod yn brysur iawn yn dylunio yn y dosbarth, a nawr yn barod i adeiladu ar gaeau’r ysgol –

Mae’r cwrs 6 twll wedi cael ei ddylunio gan ddisgyblion Bl.6 yr ysgol, ac mae wedi ei seilio ar dyllau enwog sydd o amgylch y byd.

Dyluniwyd y twll pan oedd y disgyblion ym mlwyddyn 5, a nawr, ym mlwyddyn 6, maen nhw’n barod i’w adeiladu.

Bydd modd hefyd i chwarae ‘foot-golf’ ar y cwrs – gem yw hon sydd yn dilyn rheolau gem o golff arferol, ond fod pob unigolyn yn cicio pêl-droed, yn hytrach na tharo pêl golff.

Bro Lleu yw’r ysgol gyntaf yn yr ardal i adeiladu cwrs golff ar eu tir – pwy a ŵyr, efallai fydd y Tiger Woods nesaf yn dŵad o Benygroes?

Dyma stori grëwyd â disgyblion ysgol Bro Lleu ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cyntaf yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru